Cynllun Kickstart - Cynorthwyydd Profiad Cwsmer a Warden Safle (Castell Henllys)


 Public Sector
 Crymych SA41, UK
 Kickstart CCSW CH W
Part Time

  About the Job

Lleoliad chwe mis fydd hwn yn cefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yn gweithio'n uniongyrchol i'r Rheolwr Safle yng Nghastell Henllys, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y canlynol:

• Cyfarfod a chyfarch ymwelwyr gan sicrhau bod yr ymwelydd yn cael profiad o’r radd flaenaf, gan gynnwys croesawu ymwelwyr ar y safle a’u cynorthwyo i ddeall y gweithgareddau a’r gwasanaethau addysg a gynigir.
• Cyfeirio aelodau’r cyhoedd a chynorthwyo i reoli’r maes parcio a llif yr ymwelwyr.
• Cynorthwyo staff y Gwasanaethau Ymwelwyr ac Addysg i osod y gweithgareddau a’u cau ar ddiwedd dydd.
• Cynorthwyo’r staff adwerthu gyda’u dyletswyddau cadw rhestr o’r stoc a rhedeg y siop.
• Cynorthwyo Warden y Safle drwy sicrhau y cedwir at fesurau iechyd a diogelwch y safle, gan gynnwys gwirio bod sbwriel wedi’i gasglu a bod y gwaith glanhau wedi’i wneud.
• Cyflawni mân waith cynnal a chadw’r safle o dan gyfarwyddyd llawn ac yn unol ag Asesiadau Risg a’r canllawiau iechyd a diogelwch.
Brwdfrydedd a’r gallu i ddysgu.
Gweithio’n drylwyr a sylw craff i fanylion.
Gofal a diwydrwydd a’r gallu i sicrhau y cedwir at yr egwyddorion iechyd a diogelwch bob amser.
Sgiliau gwasanaeth cwsmer o'r radd flaenaf neu'n barod i ddelio ag ymholiadau a chwynion cwsmeriaid yn gadarnhaol.
25 awr i’w gweithio rhwng dydd Llun a dydd Gwener a rhwng yr oriau 9 i 5pm. Yr union batrwm gwaith i’w gytuno gyda’r unigolyn. Caniateir hyblygrwydd i’r person iawn.
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Bydd APCAP yn datblygu rhaglen gyflogadwyedd unigol bwrpasol fydd yn mynd law yn llaw â'r lleoliadau. Bydd hyn yn cynnwys:

• Contract Lleoliad Gwaith sy’n nodi sgiliau a thargedau gyrfa yr ymgeiswyr a disgwyliadau APCAP o ran eu cwblhau'n llwyddiannus - cefnogir hyn drwy sesiynau hyfforddi rheolaidd i sicrhau cyrhaeddiad;
• Rhestr o Broffil Sgiliau a Phersonoliaeth i fagu hyder a hunanymwybyddiaeth;
• Gweithdy cynllunio gyrfa, gan gynnwys y gwahanol lwybrau i gyflogaeth;
• Cyngor ar wella hyder a sgiliau rhyngbersonol yn y farchnad swyddi;
• Cymorth ar wella sgiliau cyflogadwyedd;
• Gweithdai ar ysgrifennu CV a sgiliau cyfweliad;
• Hyfforddiant ar sgiliau penodol drwy ddefnyddio dull cyfunol o ddysgu ystafell ddosbarth ac e-Ddysgu. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant ar y system o Reoli Datblygu (Cynllunio) a Microsoft Office.
• Bydd hyfforddiant rôl-benodol yn cael ei ddarparu drwy hyfforddiant gan reolwr llinell a bydd yn cynnwys Sgiliau Gwasanaeth Cwsmer, Cymraeg Sylfaenol, Cyflawni Asesiadau Risg, Rheoli Stoc. Darperir hyfforddiant sylfaenol ar Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys sgiliau Codi a Chario.

Neilltuir cyfaill / mentor i bob ymgeisydd o fewn APCAP i'w helpu i lywio’r byd gwaith, a byddant yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd.

Dyddiad cau: 4:6:21

  Job Summary

Job Title
Cynllun Kickstart - Cynorthwyydd Profiad Cwsmer a Warden Safle (Castell Henllys)

Closing Date
18 June 2021

Date Posted
05 May 2021

Job Reference
Kickstart CCSW CH W

Location
Crymych SA41, UK

Sector
Public Sector

Welsh- Kickstart Customer Service Site Warden Castell Henllys  



View Advert
Apply Now